P-05-752 Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jamie Denyer ar ôl casglu 421llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu a chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu strategaeth ac argymhellion i feithrin gallu ein plant, o’u plentyndod cynnar, i wrthsefyll effeithiau distrywiol seiberfwlio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai’r strategaeth gynnwys cyngor i rieni ac ysgolion
ynghylch:
* sut i greu safbwyntiau iach a chreu perthynas iach ag eraill ar y
cyfryngau cymdeithasol
* sut i baratoi plant i adnabod ac amddiffyn eu hunain rhag y math
o ymddygiad sy’n cyfateb i seiberfwlio
*
sut i ddysgu plant i wahanu profiadau ar-lein oddi wrth brofiadau
bywydau ‘go iawn’
* sut i feithrin gallu plant i ymdopi’n emosiynol ag
ymosodiadau personol ar-lein
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gŵyr
· Gorllewin De Cymru